Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Pryd?

1–2 Ebrill, 2016

Lle?

Ystafell Teras 3
Prif Adeilad y Celfyddydau
Prifysgol Bangor
Bangor
Gwynedd
LL57 2DG

Cysylltiadau

Nerys Boggan

Croeso

Canmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg: Iwerddon, Cymru a’r Ymateb Llenyddol

Cynhadledd Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, 1–2 Ebrill 2016

Yn Ebrill 1916 cofir am ganmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg, digwyddiad canolog yn hanes Iwerddon fodern. Bydd y gynhadledd hon yn gyfle i roi’r gwrthryfel hwnnw yn ei gyd-destun ac i fesur ei berthnasedd cyfoes. Bydd hefyd yn holi ynghylch arwyddocâd carchar y Fron-goch ger y Bala lle y rhoddwyd rhai o arweinwyr y gwrthryfel dan glo, yn eu plith Michael Collins ac Arthur Griffith. A bydd hefyd yn trafod sut yr effeithiodd y gwrthryfel ar lenorion Cymraeg, o T. Gwynn Jones hyd at Gerallt Lloyd Owen.

Dyma rai o’r themâu y bydd y gynhadledd hon yn eu harchwilio mewn cyfres o bapurau gan arbenigwyr yn y maes.

Site footer