Rhaglen ar gyfer Canmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg
Iwerddon, Cymru a’r Ymateb Llenyddol
Cynhadledd Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, 1–2 Ebrill 2016
Yn Ebrill 1916 cofir am ganmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg, digwyddiad canolog yn hanes Iwerddon fodern. Bydd y gynhadledd hon yn gyfle i roi’r gwrthryfel hwnnw yn ei gyd-destun ac i fesur ei berthnasedd cyfoes. Bydd hefyd yn holi ynghylch arwyddocâd carchar y Fron-goch ger y Bala lle y rhoddwyd rhai o arweinwyr y gwrthryfel dan glo, yn eu plith Michael Collins ac Arthur Griffith. A bydd hefyd yn trafod sut yr effeithiodd y gwrthryfel ar lenorion Cymraeg, o T. Gwynn Jones hyd at Gerallt Lloyd Owen. Dyma rai o’r themâu y bydd y gynhadledd hon yn eu harchwilio mewn cyfres o bapurau gan arbenigwyr yn y maes.
Gwener, 1 Ebrill 2016
Nos Wener, 1 Ebrill 2016
6.00 – Yr Is-Ganghellor John Hughes: Croeso a Chyflwyniad
Darlith agoriadol y gynhadledd:
Dr William Murphy, Dublin City University: ‘The Easter Rising, 1916: why it matters’*
*Ar agor i’r cyhoedd – traddodir yn Saesneg
Sadwrn, 2 Ebrill 2016
Dydd Sadwrn, 2 Ebrill 2016
9.15–10.00 | Cofrestru |
10.00–11.00 | Lyn Ebenezer: ‘Y Frongoch: Prifysgol Rhyddid’ |
11.00–11.15 | Coffi |
11.15–12.00 | Leona Huey: ‘Y Frongoch: safbwynt archaeolegol’ |
12.00–1.00 | Ifor ap Glyn: ‘Stori’r Frongoch: ar lwyfan ac ar sgrin’ |
1.00–2.00 | Cinio |
2.00–3.00 | Dr Dewi Wyn Evans: ‘Cefndir ieithyddol y Gwrthryfel’ |
3.00–4.00 | Dr Llŷr Gwyn Lewis: ‘“At last the Irish trouble has come”: ymateb T. Gwynn Jones a W. B. Yeats i Wrthryfel y Pasg’ |
4.00–4.15 | Coffi |
4.15–5.00 | Gruffudd Antur Edwards: ‘Nid bwledi ond blodau: Gerallt a’r gwrthdaro yn Iwerddon’ |
Cynhelir y gynhadledd yn Ystafell Cledwyn 3 ar lawr isaf Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor (y drws nesaf i fwyty’r Teras). Cost y gynhadledd yw £20.00 y pen (£10.00 i fyfyrwyr) yn cynnwys cinio bwffe a lluniaeth ar y dydd Sadwrn.
Y dyddiad cau ar gyfer cofrestriadau yw 24 Mawrth: cysyllter â Nerys Boggan ar 01248 382009 neu cahconferences@bangor.ac.uk